Bwriad Cynllun Llysgenhadon Mudiad Meithrin yw dangos esiampl o groesdoriad o rieni sydd wedi dewis addysg Gymraeg i’w plant a’u rhesymau dros hynny yn y gobaith y bydd mwy o rieni, yn arbennig rhieni o deuluoedd cymysg eu hiaith neu rieni di-Gymraeg, yn dewis addysg Gymraeg i’w plant.
Cafodd y cynllun ei lansio yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 pan gyhoeddodd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllïan Lansdown Davies, (canol yn y llun uchod) mai Shereen Williams (chwith) a Siôn Tomos Owen (de) oedd Llysgenhadon cyntaf Mudiad Meithrin.
Darllenwch mwy am y lansiad, ac am resymau Shereen Williams a Siôn Tomos Owen dros ddewis addysg Gymraeg i'w plant.