Agorwyd Canolfan Plant Llangefni yn swyddogol gan Jane Hutt A.C Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar y 30 Hydref 2008.
Mae Canolfan Integredig Llangefni yn cartrefu sawl darpariaeth yn enw’r Mudiad:
Swyddfa’r Gogledd
Mae'r Ganolfan Integredig yn cartrefu swyddfeydd newydd i staff craidd y Mudiad yn y gogledd.
Partneriaid
Mae nifer o bartneriaid yn rhannu’r cyfleusterau o fewn y ganolfan integredig, gan gynnwys Gwasanaeth Gwybodaeth Plant a Phobl Ifanc Ynys Môn, Dechrau’n Deg, Cynllun Teulu Gwledig a Chylch Meithrin Stryd y Bont. Mae’r ganolfan felly yn llwyr haeddu’r teitl ‘Integredig’ gyda’r ystod eang o wasanaethau sy’n cael eu cynnig o fewn ei drysau.
Cefnogaeth ychwanegol i rieni
Mae modd i rieni fanteisio ar y gefnogaeth ychwanegol fydd ar gael gan staff Mudiad Meithrin, staff Dechrau’n Deg a staff Gwasanaeth Gwybodaeth Plant, a fydd wedi eu lleoli o fewn Canolfan Plant Llangefni.
Cyllidwyd y Ganolfan hon gyda chefnogaeth y canlynol:
Rhaglen Yr Undeb Ewropeaidd Amcan 1 – Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cronfa Loteri Fawr a Chyngor Sir Ynys Môn.