I ennill y cymhwyster Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae Dysgu a Datblygiad Plant rhaid astudio’r ddau gymhwyster canlynol:
Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Cymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth yw hwn ar gyfer staff profiadol sydd am ddatblygu eu potensial fel arweinwyr er mwyn symud ymlaen i rôl arwain a rheoli yn y sector Gofal Plant. Gan ei fod yn seiliedig ar wybodaeth, gall dysgwyr gwblhau'r cymhwyster hwn cyn iddynt gyrraedd lefel rôl arwain.
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi cwblhau'r cymwysterau canlynol neu'r hyn y cydnabyddir sy'n gyfwerth â nhw'n llwyddiannus:
Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer
Beth fydd y cymhwyster yn ei gynnwys?
Mae'r cymhwyster Lefel 4: Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn cynnwys y tair uned ganlynol:
- Arwain ymarfer plentyn-ganolog
- Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli
- Deall sut i arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
Strwythur y cymhwyster
Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 60 credyd. Mae pob uned yn y cymhwyster hwn yn orfodol.
Asesu
Ar gyfer yr asesiad allanol rhaid i ddysgwyr gwblhau project sy'n cynnwys cyfres o dasgau, yn seiliedig ar newid arfaethedig i ymarfer yn llwyddiannus.
Ar gyfer yr asesiad mewnol, rhaid i ddysgwyr gwblhau cyfres o dasgau, sy'n cynnwys ymatebion llafar ac ysgrifenedig yn llwyddiannus
Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ar gyfer y rhai sydd â phrofiad mewn rôl arwain neu reoli yn y sector Gofal Plant. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i helpu dysgwyr dros 19 oed i ymarfer fel arweinwyr a rheolwyr yn y sector. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n rheoli'r cwricwlwm ar gyfer plant 3-7 oed mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen yng Nghymru. Mae hefyd yn addas ar gyfer:
- dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn llwyddiannus
- dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster perthnasol yn llwyddiannus yn y 'Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoledig yng Nghymru'
Beth fydd y cymhwyster yn ei gynnwys?
Mae'r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:
- Arwain a rheoli ymarfer plentyn-ganolog
- Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
- Arwain a rheoli ansawdd y gweithle/lleoliad
- Ymarfer proffesiynol
- Arwain a rheoli ymarfer sy'n hybu'r broses o ddiogelu plant
- Arwain a rheoli iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle/lleoliad
- Mae ystod o unedau dewisol ar gael.
Strwythur y cymhwyster
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 120 o gredydau o leiaf.
- Rhaid cyflawni 90 o gredydau o'r grwp Gorfodol
- Rhaid cyflawni o leiaf 30 o gredydau o'r grwp Dewisol.
Asesu
Caiff yr asesiad ei asesu'n allanol. Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- portffolio o dystiolaeth
- project busnes
- trafodaeth broffesiynol
At beth y gallai'r cymhwyster hwn arwain?
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i wella eu cyfleoedd cyflogaeth neu i barhau ag astudiaethau pellach ar lefel uwch.
Diddordeb - beth nesaf?
Ewch ati i gael golwg dros rhai o'r cwestiynau cyffredin isod cyn mynd ati i lenwi eich ffurflen gais. Dyddiau Cau - 26.2.2021