Mae’r cymhwyster hwn yn addas i bawb sydd eisiau gweithio mewn lleoliadau neu wasanaethau gofal, dysgu a datblygiad plant yng Nghymru.
Mae’r cymhwyster yma’n galluogi myfyrwyr i feithrin y wybodaeth â’r sgiliau sydd eu hangen i weithio neu barhau â’u hastudiaethau yn y maes Gofal Plant
- Cwrs 2 flynedd
- 2 ddiwrnod yn yr ysgol gyda thiwtor profiadol
- 2 ddiwrnod ar leoliad mewn Cylch Meithrin, ysgol Gynradd Gymraeg neu Feithrinfa Ddydd Gymraeg
Mae’n gwrs gwybodaeth ac ymarfer sydd gyfwerth â 2 x Lefel A. Rhoddir y pwyntiau UCAS canlynol am y cymhwyster yma:
Gradd | Pwyntiau |
Rhagoriaeth* | 112 |
Rhagoriaeth | 96 |
Teilyngdod | 64 |
Llwyddiant | 32 |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Mae’n cynnwys 7 uned sy’n cael eu hasesu drwy:
- 3 x Astudiaeth achos
- prawf dewis lluosog
- arholiad allanol
- ymchwiliad
Ymarfer
Mae’n ofynnol i ddysgwyr gwblhau o leiaf 700 awr o leoliad gwaith er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn.
Bydd asesydd yn ymweld â’r lleoliad i asesu cymhwysedd y dysgwr i weithio gyda phlant. Y dull asesu yn cynnwys:
- portffolio o dystiolaeth
- arsylwi ar ymarfer
- trafodaeth broffesiynol
Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn darparu sylfaen addas ar gyfer astudio Blynyddoedd Cynnar, addysg neu nyrsio yn y brifysgol.
Bydd y dysgwr hefyd yn gymwys i weithio mewn gwahanol leoliadau Gofal ac Addysg Plant.