Ioga Babi
Dilyn y daith ddwyieithog
Mae ein grwpiau yn gyfeillgar a chynhwysol ac yn ffordd wych i godi hyder, i ddysgu ychydig o Gymraeg neu i gymdeithasu a rhieni newydd yn eich ardal. Mae croeso i bawb, siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r di-gymraeg. Grwpiau tymor ysgol yn unig yw'r rhain, noder na chodir tâl am fynychu ein grwpiau.
Ar ôl mynychu ein grwpiau anogir rhieni i fynd draw i’w grŵp Ti a Fi lleol cyn cofrestru’r plentyn yn y Cylch Meithrin lleol.
Mae ein sesiynau ioga babi yn gyfle i barhau i fwynhau’r amser un i un gyda dy fabi gan ddilyn ymlaen o’r sesiynau tylino mewn awyrgylch gartrefol. Mae’n gyfle i gryfhau a datblygu cyhyrau’r babi drwy symudiadau syml ac o gymorth i ymlacio’r babi a’r rhiant a mwynhau caneuon syml Cymraeg.
Mae ein grwpiau ioga wedi eu rhannu yn ddau:
- Grwpiau ioga babi cychwynnol - addas ar gyfer babis o 10+ wythnos oed
Cei gyfle i ddysgu nifer o symudiadau ymlacio a fydd o fudd i ti a dy fabi: rho gynnig ar symudiad y gath, gweddi, croesi coesau, dwi’n dy garu di, troi a throi, sws fawr, ar y beic, roli poli, y drwm, siglo, calon wrth galon a mwy.
- Grwpiau ioga babi pellach – addas ar gyfer babis o 24+ wythnos oed
Cei gyfle i ehangu ar y symudiadau uchod trwy ddod yn gyfarwydd gyda hedfan, cwtsh, troi a throsi, dwylo prysur, siglen, cobra bach, si-so eistedd, si-so sefyll, fyny a ni a mwy!
- Lliain a mat newid babi
- Dillad sbâr i’r babi
- Cyfle i gryfhau’r cyswllt un i un gyda dy fabi
- Gall helpu gyda phroblemau gwynt, rhwymo a phroblemau cwsg dy fabi
- Gall gryfhau datblygiad corfforol y babi a chryfder canolog y corff
- Gall wella cydbwysedd, cydsymud a sgiliau ‘motor’
- Gall wella ystwythder y corff
- Gall gryfhau hyder rhiant a’r babi
- Mae’n gyfle i gael hwyl gyda dy fabi
Am fwy o wybodaeth am grwpiau Cymraeg i Blant yn eich ardal cliciwch ar y linciau facebook isod neu cysylltwch gyda’ch Swyddog Cymraeg i Blant lleol:
Facebook.com/Cymraeg i Blant… (Tudalen cenedlaethol)
Facebook Cymraeg i Blant Casnewydd
Blaenau Gwent
Merthyr
Caerdydd
Gogledd Powys
De Powys
Penfro
Rhondda Cynon Taf
Caerffili
Penybont
Abertawe/CNPT
Sir Gâr
Conwy
Bro Morgannwg
Môn
Arfon
Dwyfor
Meirionnydd
Wrecsam
Dinbych
Sir y Fflint
Ceredigion
Mynwy
Torfaen