Mae gofyn i bob pwyllgor rheoli sicrhau fod y cylch yn cydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch. Mae llawer o elfennau iechyd a diogelwch y cylch yn deillio o reoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) dylid cyfeirio yn gyson at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
Mae llawer o wybodaeth am drefniadau iechyd a diogelwch y cylch ar gael yng Nghynllun Gweithredol y cylch (i'w gael ar fewnrwyd). Dylid cyfeirio’n ôl at y gweithdrefnau hyn ynghyd a’r polisïau wrth ystyried materion iechyd a diogelwch.
Cyfrifoldebau’r Pwyllgor:
- Iechyd, diogelwch a lles holl staff y cylch (staff parhaol, profiad gwaith a gwirfoddol).
- Iechyd a diogelwch unrhyw un sy’n ymweld neu’n defnyddio’r cylch
- Iechyd a diogelwch unrhyw un sydd â’r hawl i ddefnyddio offer y cylch
- Iechyd a diogelwch unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan weithgaredd y cylch e.e. y cyhoedd.
Cyfrifoldebau’r Staff:
- Cymryd gofal rhesymol o’u iechyd a diogelwch eu hunain ac unrhyw berson arall a fyddai’n cael eu heffeithio gan eu gweithredoedd neu eu hesgeulustod yn y gwaith.
- Cydweithio â’r pwyllgor rheoli i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol.
- Mae’n ofynnol i bob cylch arddangos y poster iechyd a diogelwch. Gellir prynu’r poster oddi ar wefan yr HSE
Yswiriant:
Trwy ymaelodi â Mudiad Meithrin mae’r Cylch Meithrin yn cael gwerth £10 miliwn o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Yr yswiriant yma fydd yn diogelu’r Cylch rhag unrhyw achos a gymerir yn ei erbyn os yw aelod o staff neu aelod o’r cyhoedd wedi cael niwed neu salwch o ganlyniad i waith y Cylch Meithrin. Cliciwch yma i weld ein Pecyn Gwasanaeth.
Dyma restr o'r adrannau gwahanol sy'n gyfrifoldeb ar y pwyllgor rheoli, wrth glicio ar y botwm cewch mwy o wybodaeth am yr adran.