Polisi Iaith Mudiad Meithrin
Mae pob Cylch Meithrin yn derbyn a mabwysiadu Polisi Iaith Mudiad Meithrin. Mae derbyn a gweithredu y polisi hwn hwn yn amod o fod yn aelod gyda Mudiad Meithrin. Ni chaniateir newid unrhyw elfen o’r polisi hwn.
Er bod disgwyl i’r Cylch Meithrin weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, nid oes disgwyl i bob aelod o’r pwyllgor fedru siarad Cymraeg. Rydym yn croesawu ac yn annog pobl o bob cefndir i fod yn rhan o bwyllgor y cylch.
Y Dull Trochi
Mae pob Cylch Meithrin yn leoliad gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Y dull trochi iaith ydy’r enw a rhoddir i’r ffordd rydym yn cyflwyno’r Gymraeg i blant sydd yn dod o gartrefi di-Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y dolenni ar waelod y dudalen, neu gysylltwch â'ch Swyddog Cefnogi lleol.
Cymraeg i Blant
Mae Cymraeg i Blant yn gynllun sydd wedi ei sefydlu i annog darpar rieni a rhieni newydd i ddilyn llwybr dwyieithog i’w plant trwy ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.
Mae’r grwpiau cefnogi isod ar gael i rieni newydd:
- Gr?p tylino babi yn addas ar gyfer babanod rhwng 8-24 wythnos oed
- Gr?p ioga babi yn addas ar gyfer babanod o 10+ wythnos oed ac ar gyfer babanod 16+ wythnos oed
- Gr?p Stori a Chân yn addas ar gyfer babanod 0-3 oed
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i weld pryd a ble mae sesiynau Cymraeg i Blant yn eich ardal chi
Clwb Cwtsh
Mae ClwbCwtsh yn gwrs blasu Cymraeg rhad ac am ddim sydd wedi’i anelu at ddysgwyr newydd ac sy’n canolbwyntio ar iaith magu plant yn y cartref.
Yn ystod y cwrs, bydd adloniant ar gael i blant, gan sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr i bobl ymuno. Bydd y sesiynau yn hwyliog, ysgafn ac yn defnyddio canu a gemau gydag amser am baned (wrth gwrs)!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.