Mudiad Meithrin yw prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Gyda 180 o staff proffesiynol ar draws Cymru, mae’r Cylch Meithrin yn gallu tynnu ar arbenigedd gweithwyr ar lefel Cymru gyfan. Cliciwch yma i ddarllen mwy o wybodaeth am Mudiad Meithrin.
Wrth ymaelodi â Mudiad Meithrin disgwylir i bob Cylch Meithrin gydymffurfio â Pholisi Iaith Mudiad Meithrin.
Er bod disgwyl i’r Cylch Meithrin weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, nid oes disgwyl i bob aelod o’r pwyllgor fedru siarad Cymraeg. Rydym yn croesawu ac yn annog pobl o bob cefndir i fod yn rhan o bwyllgor y cylch.
Cliciwch yma i weld crynodeb o nod ac amcanion Mudiad Methrin, a chliciwch ar y dolenni isod i ddarllen ein hadroddiad blynyddol, 'Dewiniaith' - ein gweledigaeth 10 mlynedd, a 'Meithrin Miliwn' - ymateb Mudiad Meithrin i 'Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg' Llywodraeth Cymru.