Academi
Menter gyffrous yw Academi sydd â'r nod o ddarparu ystod eang o gyfleoedd datblygu a hyfforddi i’r holl staff a gwirfoddolwyr sy'n rhan o gymuned Mudiad Meithrin.
Mae'r cyfleoedd dysgu sy'n cael eu cynnig o dan faner academi yn cwmpasu pob agwedd o waith y Mudiad - o faterion ieithyddol, addysgol a gofal i faterion gweinyddol a rheoli.
Cliciwch yma i weld prosbectws academi ar ein gwefan.
Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol
Mae Mudiad Meithrin yn gweinyddu y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol ar draws Cymru.
Mae'r cynllun yn cynnig cyfleoedd i hyfforddi mewn gofal plant yn rhad ac am ddim mewn lleoliad Blynyddoedd Cynnar. Fel rhan o'r gytundeb gyda Llywodraeth Cymru, bydd 100 o ddysgwyr y flwyddyn yn derbyn hyfforddiant cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plentyn (GDDP). Bydd dysgwyr yn astudio am flwyddyn, o'r 1af o Fedi hyd y 31ain o Awst y flwyddyn ganlynol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.