Cefnogaeth Mudiad Meithrin
- Mae aelodau Mudiad Meithrin yn cael cyfle i ymgeisio am grant gan Mudiad Meithrin bob blwyddyn.
- Mae Mudiad Meithrin yn cynnal cyfleodd codi arian yn ystod y flwyddyn e.e. Parti Pajamas neu Rhywbeth Neis i De
- Mae gan Mudiad Meithrin hefyd 'Clwb Cant' sy'n gyfle i'r cylchoedd ennill gwobr ariannol ac yn ffordd o godi arian
- Mae gan Mudiad Meithrin Swyddog Nawdd sy'n cynnig cefnogaeth i gylchoedd trwy chwilio am gronfeydd nawdd a allai fod o fudd.
- Darperir gwybodaeth gyfredol am nawdd a chynlluniau grant newydd ar gyfrifon Trydar a Facebook y Mudiad. Bydd y wybodaeth am gronfeydd penodol yn cynnwys at beth y dylid anelu ceisiadau, sut mae gwneud cais, a dyddiadau cau.
Grantiau eraill
Yn ychwanegol i’r grantiau Addysg, Dechrau’n Deg ayyb mae modd gwneud ceisiadau am grantiau eraill. Bydd eich Swyddog Cefnogi yn gallu rhoi rhestr o ffynonellau allanol lleol i chi, a chefnogi'r broses ymgeisio.
- Rhaid cofio bod y mwyafrif o’r grantiau ar gael ar gyfer adnoddau, offer neu brosiectau penodol ac nid ar gyfer talu cyflogau a rhent.
- Mae’n bwysig blaenoriaethu ffioedd a grantiau Addysg/Dechrau’n Deg ar gyfer talu cyflogau a rhent.
- Yn ogystal â ffynonellau cenedlaethol sy’n rhoi grantiau, bydd rhai sefydliadau/busnesau lleol yn barod i gefnogi cylchoedd meithrin drwy noddi eich digwyddiadau e.e. gwobr raffl.
- Mae Cyngor Mudiadau Gwirfoddol yn gweithredu ymhob sir ac maent yn gallu rhoi gwybodaeth am gynlluniau cyllido lleol, a chynghori ar sut i lunio ceisiadau. Am fwy o wybodaeth a manylion cyswllt, cliciwch yma.
- Mae enghraifft o’r math o wybodaeth i’w gynnwys mewn cais am grant ar waelod y dudalen
- Mae cynghorau tref a chymuned, a busnesau lleol hefyd yn darparu grantiau i elusennau lleol.
- Gall pwyllgorau hefyd gael canllaw cymorth i ddod o hyd i grantiau a gwneud ceisiadau trwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Grantiau gellir ceisio amdanynt::
Arian i Bawb - Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cynnig grantiau rhwng £300 a £10,000 i gefnogi'r hyn sy'n bwysig i bobl a chymunedau. Gellir ymgeisio drwy gydol y flwyddyn. Mae'n bwysig eich bod yn cynnwys eich cymuned wrth ddylunio, datblygu a chyflwyno'r gweithgareddau rydych yn eu cynllunio. Bydd eich prosiect neu weithgaredd yn fwy llwyddiannus o ganlyniad i hyn. Ewch i’w gwefan am wybodaeth bellach am sut i gynnwys eich cymuned yn nyluniad a chyflwyniad eich prosiect.
Aviva - i helpu cymunedau i wneud gwahaniaeth mawr drwy newidiadau bach. Mae'r dyddiad cau yn amrywio.
Cronfa Glyndwr - Cymorth i brynu offer/ adnoddau newydd neu i baratoi adnoddau marchnata yn benodol ar gyfer hyrwyddo Addysg Gymraeg.
Sainsburys - Cymorth gyda bwyd
Asda - Cymorth ar gael i wneud gwaith adnewyddu ar adeiladau a prynu offer. Ewch i'ch siop leol i drafod yr opsiynau.
Tesco - Cymorth ar gael adnewyddu adeiladau cymunedol, datblygu ardaloedd tu allan, prynu adnoddau newydd neu cynnal digwyddiadau cymunedol.
Co-op - Mae pob siop lleol yn cefnogi 3 elusen y flwyddyn a mae cyfraniadau o werth y siopa yn cael ei rannu rhwng 3 elusen. Byddwn yn rhoi gwybod am y cyfnod ymgeisio ar ein cyfrifon cymdeithasol
Codi Arian
- Dylid ceisio trefnu amserlen codi arian am y flwyddyn a gosod amcanion clir o’r hyn sydd ei angen.
- Gellir sefydlu is-bwyllgor codi arian a phenodi swyddog penodol ar y bwyllgor i arwain ar y gwaith.
- Mae modd gwario’r arian a godir drwy weithgareddau codi arian ar unrhyw beth perthnasol i’r cylch – gan gynnwys rhent a chyflogau.
Syniadau defnyddiol:
- Pacio bagiau neu gynllun talebau archfarchnad lleol (enghraifft)
- Gweithgareddau noddedig (taith gerdded, ras feics)
- Raffl - cliciwch am ganllawiau cynnal raffl
- Cyngerdd yn y Cylch Meithrin- gwerthu tocynnau
- Clwb 100
- Sêl Gist Car
- Stondin Gacennau
- Bore Coffi
Gellir dod o hyd i wybodaeth am elfennau cyfreithiol codi arian yma ar wefan y Rheolydd Codi Arian