Ai mudiad plant neu fudiad iaith yw Mudiad Meithrin? Oes rhaid dewis? Ceir tensiwn creadigol rhwng y ddau sy’n arwain at bob math o ganlyniadau gwych!

O ran datblygiad y plentyn bach, mae’r profiadau ynghlwm â rhaglen ‘Cymraeg i Blant’, mynd i’r Cylch Ti a Fi gyda Mam neu Dad a dechrau cymryd camau at annibyniaeth yn y Cylch Meithrin yn holl-bwysig! Dyna pam fod ansawdd a safon y ddarpariaeth – a’r holl brofiadau dysgu trwy chwarae hwyliog gyda gweithlu cymwys, proffesiynol – yn allweddol. O ran y Gymraeg, pan sefydlwyd y Mudiad yn 1971 roedd ffigyrau’r Cyfrifiad y flwyddyn honno yn nodi mai 11.3% o blant 3-4 oed yng Nghymru oedd yn gallu siarad Cymraeg. Cafwyd cynnydd graddol yn y canran yma ym mhob degawd ers hynny gydag ystadegau Cyfrifiad 2011 yn dangos cynydd sylweddol sef 23.3% o blant 3-4 oed yn gallu siarad Cymraeg. Heb os, rydym yn sicr mai’r gwaith caled a wnaed yn trochi plant yn y Gymraeg yn y Cylchoedd Meithrin a’r Cylchoedd Ti a Fi yn arwain at y twf mewn addysg Gymraeg sydd wedi cyfrannu’n helaeth at sicrhau’r cynnydd yma.

Am ragor o fanylion am hanes y Mudiad gweler y llenyddiaeth ganlynol:

Meithrin – Hanes Mudiad Ysgolion Meithrin 1971-1996, Catrin Stevens, Gwasg Gomer, ISBN: 978-1859023389

Cylch o Hanner Canrif, Mererid Hopwood, Gwasg Carreg Gwalch, ISBN: 9781845277987

Gwerddon: (‘Darpariaeth Gymraeg i blant ifanc: hanes a heriau datblygiad addysg feithrin yng Nghymru’), Siân Wyn Siencyn. Rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn sy’n rhoi blas o’r hanes.

Adroddiad Blynyddol 2019-2021

Lawrlwytho