Pan sefydlwyd y Mudiad yn 1971 roedd ffigurau’r Cyfrifiad y flwyddyn honno yn nodi mai 11.3% o blant 3-4 oed yng Nghymru oedd yn gallu siarad Cymraeg. Cafwyd cynnydd graddol yn y canran yma ym mhob degawd ers hynny a braf nodi yng Nghyfrifiad 2011 roedd y ffigwr wedi cynyddu’n sylweddol yn y degawd olaf i 23.3% o blant 3-4 oed yn gallu siarad Cymraeg. Heb os, rydym yn sicr mai’r gwaith caled a wnaed yn y cylchoedd meithrin a’r cylchoedd Ti a Fi dros y blynyddoedd sydd wedi cyfrannu’n helaeth at sicrhau’r cynnydd yma.
Effaith ein gwaith
