Cyfrifoldeb y pwyllgor yw i sicrhau bod y Cylch Meithrin yn:
*ymrwymo i gynyddu ymwybyddiaeth gan staff a rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid am bwysigrwydd datblygu arferion diogel wrth ddefnyddio technolegau digidol (digital technologies).
*disgwyl i staff fodelu arfer dda wrth ddefnyddio technolegau digidol a dyfeisiadau symudol (portable devices).
*sicrhau bod angen cyfrinair er mwyn cael mynediad at offer digidol sydd yn storio gwybodaeth sensitif, a sicrhau mai dim ond staff a rheolwyr y lleoliad sydd â chyfrineiriau.
*sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i oruchwylio plant tra’u bod yn defnyddio technoleg ddigidol.
*sicrhau cyflwyno’r Polisi E-Ddiogelwch fel rhan o rhaglen anwytho staff newydd. Mae'r polisi ar gael ar y fewnrwyd.
*sicrhau cynnal amgylchedd digidol diogel i’r plant e.e. drwy sicrhau gosod rheolaeth rhieni (parental control) ar offer megis cyfrifiaduron ac iPad.
*disgwyl i staff gwirio addasrwydd unrhyw wefannau, gemau neu apiau maent yn bwriadau defnyddio gyda’r plant o flaen llaw.