Dysgu a Datblygu
Croeso i adran Dysgu a Datblygu Academi.
Nod Academi yw cynnig cefnogaeth a hyfforddiant er mwyn datblygu sgiliau ac arbenigedd staff a’n haelodau.
Yma fe gewch fynediad at adnoddau amrywiol i’w lawrlwytho a’u defnyddio yn eich lleoliad er mwyn cyfoethogi profiadau a datblygiad y plant.
Mae’r adnoddau yn bwrpasol ar gyfer lleoliadau sy’n darparu gofal a/neu addysg blynyddoedd cynnar ac yn cydfynd ag egwyddorion y Cyfnod Sylfaen.
Ceir yma hefyd adnoddau y gellir eu defnyddio er mwyn datblygu eich dealltwriaeth o faes y blynyddoedd cynnar.
Dewch i ddathlu rhai o brif wyliau crefyddol y byd!
Bwriad y pecyn hwn yw eich helpu i ddathlu gwyliau crefyddol newydd yn hyderus yn eich lleoliadau yn ystod y flwyddyn.
Mae’r pecyn yn cynnig cyflwyniad i chwech o brif grefyddau’r byd ac yn cynnwys straeon a chaneuon perthnasol, ynghyd â gweithgareddau y gellir eu gwneud gyda’r plant bach. Mae’r pecyn yn rhoi sylw i’r crefyddau canlynol: Bwdhaeth, Cristnogaeth, Hindwaeth, Iddewiaeth, Islam a Sikhaeth.
Creuwyd y pecyn gan Helen Roberts sydd yn arbenigo yn y maes ac yn enw cyfarwydd fel athrawes, darlithydd ac ymgynghorydd Addysg Grefyddol.
I dderbyn copi o’r pecyn hwn, archebwch yma.
Dyma adnodd hyfforddiant sydd â’r nod o’ch cefnogi chi i ddeall ac ymateb i trawma mewn plant bach yn y blynyddoedd cynnar.
Daw’r hyfforddiant mewn 3 rhan sydd wedi eu paratoi yn arbennig i’w defnyddio mewn cyfarfodydd tîm, fel rhan o’ch rhaglen hyfforddiant dymhorol, ac wrth anwytho staff newydd. Mae hefyd yn addas ar gyfer aelodau pwyllgorau gwirfoddol a staff sydd yn cefnogi lleoliadau.
Rhoddir sylw i nifer o sefyllfaoedd all gael effeithiau negyddol ar blant bach gan gynnwys Covid-19.
Creuwyd yr adnodd gan Eleri Griffiths, sydd wedi gweithio i amryw o fudiadau gwirfoddol yn ystod ei gyrfa megis Interlink, S’dim Curo Plant, Plant yng Nghymru a Mudiad Meithrin. Mae hyrwyddo hawliau plant yn bwysig iddi. Mae hi’n hyfforddwraig brofiadol ym meysydd diogelu plant, hawliau a lles plant.
I dderbyn copi o’r adnodd hwn, archebwch yma.