11 -15 Tachwedd, 2019
Ymgyrch Godi Arian i Gylchoedd a Meithrinfeydd Mudiad Meithrin
Gyda Dewin a Doti yn dathlu eu pen-blwydd yn 10 oed eleni, dyma weithgaredd godi arian hwyliog i’n holl ddarpariaethau i gloi’r dathliadau. Darperir pecyn gweithgareddau i’r Cylchoedd a’r meithrinfeydd i’w hannog i gynnal gweithgareddau amrywiol yn defnyddio’r dwylo gan hyrwyddo iaith, llythrennedd a rhifedd e.e. peintio gyda bysedd/
dwylo, gwneud pyped bys gyda hen fenig a.y.y.b.
Bydd modd i’r darpariaethau godi arian trwy greu print o ddwylo plentyn ar glai gydag enw ac oedran y plentyn arno, gwneud cylch allwedd gyda phrint dwylo plentyn yn rhan ohono, neu wneud sebon a’u gwerthu fel anrhegion Nadolig unigryw i’r rhieni i godi arian i’r cylch.
Dewch i ddathlu ‘Dwylo’n Dathlu Deg’ gyda Dewin a Doti fis Tachwedd eleni!
Dwylo'n Dathlu 10
