Mae amddiffyn plant rhag camdriniaeth yn gyfrifoldeb i bob aelod o staff a gwirfoddolwyr yn y Cylch Meithrin. Mae polisïau diogelu gan bob Cylch Meithrin sydd yn egluro sut mae'r Cylch yn ceisio sicrhau fod pob plentyn yn ein gofal yn ddiogel, yn fodlon ac yn ffynnu.
Mae’r Cylch yn hyrwyddo awyrgylch ac ethos sy’n galluogi plant, staff a gwirfoddolwyr i fynegi yn agored unrhyw ofidiau sydd ganddynt. Mae’r Polisi Amddiffyn Plant hwn a’r gweithdrefnau yn cydymffurfio â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008, Deddf Plant 1989 a chanllawiau diogelu plant - Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004.
OS OES UNRHYW AMHEUAETH BOD PLENTYN YN DIODDEF NEU MEWN RISG O DDIODDEF UNRHYW NIWED DYLID CYFEIRIO’R PLENTYN AT Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YN SYTH
Polisïau a Hyfforddiant
- Rhaid i’r pwyllgor sicrhau fod POB aelod o staff yn derbyn hyfforddiant Amddiffyn Plant. Mae’n rhaid diweddaru’r hyfforddiant bob tair blynedd.
- Rhaid sicrhau fod y staff yn ymwybodol o bolisi Amddiffyn a Diogelu Plant a Pholisi Atal y cylch.
- Rhaid sicrhau fod rhieni’n ymwybodol o bolisi Amddiffyn a Diogelu Plant y Cylch. Mae’n arfer dda i rieni arwyddo eu bod wedi darllen y polisi. Mae ffurflen cadarnhau i rieni ar fewnrwyd Mudiad Meithrin.
Gweithdrefnau
- Mewn achos Amddiffyn Plant mae’n ddyletswydd i rannu gwybodaeth gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ac asiantaethau perthnasol eraill.
- Rhaid anfon adroddiad at Arolygiaeth Gofal Cymru / AGC ar unrhyw g?yn yn ymwneud ag amddiffyn plant.
- Rhaid sicrhau bod rhifau cyswllt y Gwasanaethau Cymdeithasol lleol yn weledol yn y cylch.
- Dylai’r cylch ddilyn y weithdrefn yn unol â Pholisi Amddiffyn Plant y Cylch, sydd wedi’i grynhoi ar ffurf siart llif.
- Ble gwneir honiad yn erbyn aelod o staff rhaid eu gwahardd o’r gwaith tra cynhelir ymchwiliad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cydweithrediad â’r Cylch Meithrin.
Mae gan bob cylch siart lif sy'n dangos sut i weithredu achos o ddiogelu plentyn.
Mae polisi Amddiffyn Plant a holl bolisïau eraill Mudiad Meithrin ar fewnrwyd Mudiad Meithrin.