Deg Pwynt Pwysig
Nod Mudiad Meithrin yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob Cylch Meithrin yn lleoliad gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Y dull trochi iaith ydy’r enw a rhoddir i’r ffordd rydym yn cyflwyno’r Gymraeg i blant sydd yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Wrth i’r plant dderbyn eu haddysg mewn iaith sydd yn wahanol i iaith y cartref maent yn datblygu eu sgiliau iaith fel rhan naturiol o’r gweithgareddau. Dyma sut mae Cylch yn diwallu gofynion Polisi Iaith Mudiad Meithrin.
Cliciwch yma i weld manylion cynlluniau iaith Mudiad Meithrin.
Er bod disgwyl i’r Cylch Meithrin weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, nid oes disgwyl i bob aelod o’r pwyllgor fedru siarad Cymraeg. Rydym yn croesawu ac yn annog pobl o bob cefndir i fod yn rhan o bwyllgor y cylch.
Nid ffydd, gobaith a chariad sy’n cynnal gwaith y Cylchoedd Meithrin ond pwyllgorau! Mae’n holl-bwysig fod aelodau’r pwyllgor yn deall hyd a lled eu cyfrifoldebau (o safbwynt dyletswyddau fel cyflogwr ac yn ariannol). Mae’r holl wybodaeth sydd angen arnoch ar gael yma ar y wefan ac ar y fewnrwyd, yn y canllawiau rheoli (sydd yn y Cylch Meithrin) a thrwy dderbyn anwythiad (induction) gan eich Swyddog Cefnogi. Mae gan aelodau pwyllgor gyfrifoldebau pendant sy’n amlygu’r angen am gynllunio ariannol gofalus a dilyn cyfraith cyflogaeth (gyda chymorth Mudiad Meithrin). Mynnwch ddeall beth yw’ch cyfrifoldebau!
Ers rhai blynyddoedd mae Mudiad Meithrin yn arddel y model ‘Sefydliad Corfforedig Elusennol’ (Charitable Incorporated Organisation) ar gyfer cyfansoddiad a strwythur cyfreithiol pwyllgorau rheoli gwirfoddol y Cylchoedd Meithrin. Mae hyn yn diogelu pwyllgorau’n bersonol ac yn cyfyngu cyfrifoldeb ariannol aelodau’r pwyllgor (i ddim) ond yn golygu bod rhaid cyflwyno cyfrifon blynyddol i’r Comisiwn Elusennau. Anogwn pob Cylch Meithrin i sefydlu’i hunain fel SCE (yn hytrach nac elusen glasurol). Nid yw’n broses hawdd (ac mae gofyn ail-gofrestru gydag AGC) ond mae cymorth ar gael gan y Mudiad – trwy lefel aelodaeth ‘Yr Wyddfa’ - ac eisoes mae sawl Cylch wedi sefydlu’i hunain fel SCE. Cysylltwch â'ch Swyddog Cefnogi lleol i drafod.
Rydym yn arddel ac yn dathlu cymuned Mudiad Meithrin ledled Cymru. Er hynny, mae’n bwysig nodi fod cytundebau cyflogaeth i staff Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd yn nodi mai’r lleoliad unigol trwy’r pwyllgor neu’r cwmni yw’r cyflogwr ac nid Mudiad Meithrin.
Mae’n rhaid i Gylch Meithrin sydd ar agor am fwy na dwy awr ac hyd at bedair awr y dydd, ar gyfer plant o ddwy oed hyd at oed ysgol, gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae hyn yn golygu cwblhau ffurflen gofrestru, derbyn arolwg a chynnig gwasanaeth sydd yn cwrdd â’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd. Cewch fanylion cyswllt eich swyddfa leol AGC gan eich Swyddog Cefnogi.
Er mwyn derbyn ystod eang o wasanaethau a chefnogaeth, gan gynnwys gwasanaeth Swyddog Cefnogi, telerau yswiriant ffafriol a grant, mae’n rhaid i’r Cylch Meithrin ymaelodi â Mudiad Meithrin. Bydd gan Gylch sy’n aelod llawn o Mudiad Meithrin hawl i un bleidlais yn y Cyfarfod Blynyddol Cenedlaethol ac yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Sir. Mae rhestr lawn o’r gwasanaethau a’r adnoddau yn cael eu cynnwys o fewn y Pecyn Cofrestru yn flynyddol. Mae disgwyl i bob Cylch gydymffurfio â Pholisi Iaith Mudiad Meithrin.
Mae ffi aelodaeth flynyddol Mudiad Meithrin yn cynnwys sawl polisi yswiriant gwahanol. Mae’r Polisi Atebolrwydd Cyhoeddus yn yswirio'r Cylch yn erbyn hawliadau hyd at £10 miliwn, ac mae'r Yswiriant Anonestrwydd Gweithwyr yn darparu yswiriant yn erbyn twyll gan aelod o’r pwyllgor neu aelod o staff.
Mae’n rhaid i’r pwyllgor sicrhau bod risg yn cael ei reoli yn y man gwaith. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid ystyried beth allai achosi niwed ac os yw’r Cylch Meithrin yn gwneud digon i osgoi’r niwed, sef asesiad risg. Pwrpas asesiad risg yw adnabod mesurau rhesymol er mwyn rheoli’r risg yn y man gwaith. Dylid cynnal asesiad risg o leiaf unwaith y flwyddyn a’i adolygu os oes newid i’r lleoliad neu newid i anghenion y plant. Dylid llunio cynllun gweithredu gan gynnwys amserlen benodol er mwyn ymateb i unrhyw risg sy’n cael ei adnabod. Mae templedi ar gyfer asesiadau risg ar gael i aelodau fewnrwyd Mudiad Meithrin.
Mae amddiffyn plant rhag camdriniaeth yn gyfrifoldeb i bob aelod o staff a gwirfoddolwyr yn y Cylch Meithrin. Mae polisïau diogelu gan bob Cylch Meithrin sydd yn egluro sut mae'r Cylch yn ceisio sicrhau fod pob plentyn yn ein gofal yn ddiogel, yn fodlon ac yn ffynnu.
Mae’r Cylch Meithrn yn hyrwyddo awyrgylch ac ethos sy’n galluogi plant, staff a gwirfoddolwyr i fynegi yn agored unrhyw ofidiau sydd ganddynt. Mae Polisi Amddiffyn Plant Mudiad Meithrin a’r gweithdrefnau yn cydymffurfio â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008, Deddf Plant 1989 a chanllawiau diogelu plant - Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004.
Mae ein polisiau i gyd ar gael i aelodau ar fewnrwyd Mudiad Meithrin