Ymgyrch ‘Dau gi Bach’ fydd yr enw ar ymgyrch godi arian i’n cylchoedd a’n holl darpariaethau yn ystod wythnos 1 - 7 o Hydref eleni gan ddefnyddio’r hwiangerdd ‘Dau gi Bach yn mynd i’r Coed’ fel ysbrydoliaeth i’r gweithgareddau. Y nod yw annog y cylchoedd i drefnu teithiau natur i’r plant a’u teuluoedd ac un ai godi tâl ar bob teulu, neu ofyn i bobl noddi’r plant fydd yn cerdded. Byddwn yn trefnu taflen weithgareddau o gwmpas y thema, a bydd modd i chi fod mor greadigol ag y mynnwch ar y daith e.e. cuddio 2 esgid fach i’r plant gael chwilio amdanynt a.y.y.b ac wrth gwrs bydd Doti fach eisiau dod am dro gyda’r plant!
Diolch yn fawr iawn i gwmni bwyd c?n PERO am noddi'r ymgyrch.