Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn mynnu fod cofnod llawn yn cael ei gadw o dan glo ar unrhyw ddamwain neu ddigwyddiad.
- Damwain - unrhyw beth sy’n achosi niwed e.e. plentyn yn syrthio ac yn anafu ei fraich.
- Digwyddiad - unrhyw beth fyddai wedi gallu achosi niwed e.e. plentyn yn dianc o’r Cylch Meithrin neu aelod o staff yn baglu dros wifren ond ddim yn anafu.
- Os oes damwain yn digwydd yn y cylch sy’n golygu fod y plentyn/oedolyn angen triniaeth feddygol dylid cyfeirio’r ddamwain at yr HSE trwy broses RIDDOR a hysbysu AGC. Gweler Ffurflen Hysbysu AGC isod. Gweler hefyd Cynllun Gweithredol y Cylch Meithrin ar gyfer gweithdrefnau priodol (enghraifft i aelodau ar y fewnrwyd )
Cymorth Cyntaf
Rhaid i’r pwyllgor sicrhau fod 1 aelod o staff i bob 10 plentyn yn meddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf ymhob sesiwn
OND - yr arfer orau yw fod POB aelod o staff meddu ar y cymhwyster. COFIWCH mae angen adnewyddu bob 3 blynedd. Cysylltwch a'ch Swyddog Cefnogi lleol i ddod o hyd i gyrsiau hyfforddi yn eich ardal chi.
Bocs Cymorth Cyntaf
- Rhaid i bob lleoliad gael bocs cymorth cyntaf
- Rhaid gwrio’r cynnwys yn flynyddol gan sicrhau fod popeth o fewn dyddiad, gellir apwyntio un person i fod yn gyfrifol am y bocs. Cliciwch yma i weld cynnwys bocs cymorth cyntaf awgrymir gan HSE.