Mae Mudiad Meithrin yn cynnal Cynlluniau Cyfeirio ar draws Cymru sy'n cefnogi plant ag anghenion ychwanegol yn y cylchoedd meithrin. Mae'r cynlluniau hyn yn cyflogi Cysylltwyr sy'n gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a'r cylchoedd meithrin er budd y plant a'u teuluoedd.
Gall gwasanaeth y cynlluniau gynnwys:
I’r plentyn:
- Cyfle i chwarae gyda phlant eraill yn y gymuned leol.
- Cyfle i ymuno yn yr hwyl a gwneud ffrindiau bach newydd mewn awyrgylch hapus a diogel.
- Cefnogaeth aelod ychwanegol o staff yn y cylch os oes angen.
I’r teulu:
- Cyfle i drafod cefnogaeth addas i’r plentyn gyda’r Cysylltydd.
- Cyfle i ymweld â’r cylchoedd meithrin lleol.
- Amser rhydd i’r rhiant gyda’r sicrwydd bod y plentyn yn derbyn gofal o’r radd flaenaf.
I’r Cylch Meithrin:
- Cyngor a hyfforddiant i’r cylch gan arbenigwyr ac asiantaethau perthnasol yn y maes.
- Offer arbenigol.
- Cyllid ar gyfer aelod ychwanegol o staff ar gyfer y plentyn os oes angen.