Cynhwysiant a Mudiad Meithrin
Nod Mudiad Meithrin yw sicrhau cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar yn ei gymuned leol.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i'r egwyddor o gynhwysiant. Mae'n credu bod plant waeth beth fo’u hangen yn elwa o brofiadau yn y cylchoedd a'r darpariaethau eraill. Mae'r Mudiad felly yn croesawu plant ag anghenion ychwanegol i'n holl ddarpariaethau.
Er mwyn sicrhau adnabyddiaeth ac ymyrraeth gynnar mae gan un aelod o staff ymhob darpariaeth gyfrifoldeb am sicrhau bod anghenion y plant yn cael eu diwallu. Mae’r unigolion yma yn gweithio yn agos gyda Chysylltwyr y Cynlluniau Cyfeirio.