Bwriad ymgyrch Cylchoedd yn Cerdded yw eich bod yn trefnu teithiau cerdded noddedig syml i’r plant yn y cylchoedd (a’u teuluoedd os bydd amodau’r pandemig yn caniatáu).
Yn ogystal â chodi arian i’r Cylch/meithrinfa bydd hyn yn ffordd o hyrwyddo addysg
Gymraeg mewn ffordd hwyliog a gwneud i bawb fydd yn cymryd rhan deimlo fel ‘un teulu mawr’ Mudiad Meithrin.
Pryd? 7 - 14 Tachwedd, 2020
Gallwch gynnal ymgyrch Cylchoedd yn Cerdded yn llwyddiannus mewn sawl ffordd e.e.
- y plant i wneud taith gerdded noddedig yn ystod amser cylch – a chael teulu a ffrindiau i’w noddi
- cefnogaeth y gymuned leol – beth am fapio llwybr i aelodau’r gymuned ddewis ei gwneud a chyfrannu arian i’r cylch?
- annog teuluoedd gwahanol i ddewis eu taith eu hunain – gallant ddewis cerdded mewn cylch o gwmpas parc lleol os nad oes teithiau lleol addas ar gael
- gofyn i gyfeillion y Cylch neu selebs lleol i wneud sialens taith gerdded a rhoi arian i’r cylch
- gofyn i rieni gyfrannu arian mân i’r cylch a cheisio creu llinell o arian mân o gwmpas y cylch (cofiwch ddilyn callawiau hylendid priodol cyn trafod yr arian e.e. rhieni i’w gyflwyno mewn bagiau a’i roi mewn twbyn arbennig a’i adael yno am sawl diwrnod cyn ei gyffwrdd – yna gall y plant sortio’r arian yn ôl maint, lliw a gwerth a helpu i greu llinell). Y cylch i gadw’r arian i’w coffrau ar y diwedd.
Mae'r holl adnoddau isod wedi ei paratoi i'ch helpu i drefnu'r weithgaredd hwyliog hon.