Pedoli, Pedoli, Pe-dinc
Mynychodd Enyd Roberts Cylch Meithrin Y Garnedd yn ddiweddar i ganu'r hwiangerdd "Pedoli, Pedoli, Pe-dinc".
Cân am y gof yn creu pedol yw "Pedoli, Pedoli, Pe-dinc". Mae'r geiriau 'Pe-dinc, pe-dinc, pe-dinc' yn dynwared y swn sy'n cael ei greu wrth i'r gof daro morthwyl yn erbyn y bedol. Defnyddia Enyd Roberts pedol a morthwyl i ail greu'r swn 'pe-dinc', sydd i'w glywed yn y gytgan, yn ystod ei hymweliad a'r cylch meithrin.
Pedoli, pedoli, pedoli, pe-dinc,
mi fynnaf bedoli
pe gostiai mi bunt,
pedol yn ôl a phedol ymlaen,
pedol yn eisiau o dan y droed asau,
bi-dinc, bi-dinc bi-dinc x 2