Cadi Ha
Yn ddiweddar mynychodd Mr Ieuan Ap Sion gyda cylch meithrin Treffynnon i ddysgu hwiangerdd newydd i’r plant sef y ‘Cadi Ha’. Cyfeirir at y Cadi Ha fel dull o ddathlu diwrnod cyntaf Mai, ac o groesawu’r haf, pryd y mae’r tywydd yn cynhesu a’r planhigion yn tyfu. Mae gwreiddiau’r Cadi Ha yn nwfn yn Sir y Fflint ac yn estyn yn ôl dros sawl canrif. Doedd dathlu Calan Mai ddim yn ddigwyddiad unigryw i Sir y Fflint gan fod ardaloedd yn Lloegr yn dathlu mewn dulliau tebyg, e.e. ‘Morris Dancing’. Byddai dathlu Calan Mai yn wyl bwysig iawn i’r Celtiaid, ac yn achlysur i hybu ffrwythlondeb a thwf.
Mae’n debyg fod y traddodiad yn Sir y Fflint yn awgrymu mai dynion o ardaloedd glofaol y sir fyddai’n dawnsio ac yn gorymdeithio gyda’r Cadi ac yn casglu arian ar yr un pryd. Ar y noson cyn Calan Mai byddent yn torri cangen oddi ar goeden y ddraenen ddu ac yn ei rhoi mewn twba o ddwr, ac yna’r bore canlynol yn ei haddurno â chadachau lliwgar ac yn clymu clychau bach arni.
Byddai’r glowyr wedi cael diwrnod i ffwrdd o’u gwaith, ac fel rhan o’r wyl roeddent yn arfer duo’u hwynebau a gorymdeithio wrth gasglu arian a dawnsio. Byddai’r dynion yn gwisgo crysau gwyn a ruban coch arnyn nhw, gyda throwsus gwyn, a phawb yn neidio am y gorau. Ar y diwedd, byddai’r dynion yn gwario’r arian yn y tafarndai lleol.
Byddai’r Cadi, sef un o’r dynion, yn cario ‘ladal’ (math o lwy bren) efo fo er mwyn casglu’r arian. Mae’r cyfeiriad at y fuwch a’r llo yn y geiriau’n dangos eu bod yn dathlu anifeiliaid yn ogystal â dathlu llysiau a ffrwythau. Mae naid uchel yn arwydd o ddeffro’r tir er mwyn annog adnewyddiad a bywyd newydd. Traddodiad paganaidd yw’r Cadi Ha.
Hwp ha wen, Cadi Ha,
Morus stowt, am yr uchla’n neidio,
Hwp dene fo,
A chynffon buwch a chynffon llo,
A chynffon Rhisiart Parri’r go,
Hwp dene fo.