Gwen a Mair ac Elin
Fe fynychodd Ceinwen Davies Gylch Meithrin Llanfairpwll er mwyn canu’r hwiangerdd “Gwen a Mair ac Elin”.
Mae’r hwiangerdd yma yn ffefryn gan Ceinwen am ei bod yn sôn am dair o ferched sy’n hoffi bwyta pwdin, a bod Benja bach yn mynd o’i go – efallai am nad ydi o’n cael pwdin gan fod y dair arall wedi’i fwyta i gyd? Yn y cylch mae’r plant yn cael cyfle i wneud a bwyta pwdin fel gweithgaredd estynedig i gyd-fynd â’r hwiangerdd.
Gwen a Mair ac Elin,
Yn bwyta lot o bwdin
a Benja bach yn mynd o'i go,
a chrio'n anghyffredin.