Erbyn hyn, mae mwy o bobl nac erioed o’r blaen yn siopa ar-lein yn hytrach na mynd allan i siopau’r stryd fawr, oeddech chi’n sylweddoli bod modd codi arian ar gyfer Mudiad Meithrin drwy siopa ar-lein mewn dau ffordd gwahanol?
1. Mae gan Mudiad Meithrin is-gwmni o’r enw Siop Dewin a Doti sy’n gwerthu nwyddau ar gyfer plant hyd at 7 oed. Drwy siopa gyda Siop Dewin a Doti rydych yn cefnogi gwaith Mudiad Meithrin.
2. Rydym hefyd wedi cofrestru gyda gwefan 'Easyfundraising' sy’n borth siopa ar gyfer llawer o siopau sy'n rhoi cyfraniad yn ol i elusennau.
Gallwch roi hwb i’n hymdrechion codi arian drwy gofrestru gyda Easyfundraising a dewis Mudiad Meithrin fel yr elusen yr ydych am ei chefnogi. Bob tro y byddwch chi’n defnyddio’r porth hwn i fynd i siopa mewn un o gannoedd o siopau adnabyddus ar-lein, bydd Mudiad Meithrin yn derbyn cyfraniad ariannol gan y siop. Isod mae cyfarwyddiadau ar sut i fynd ati i greu cyfrif - ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i'w osod.
Bydd pob cyfraniad a wneir drwy wefan Easyfundraising yn ein galluogi ni i roi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Cliciwch isod i ddechrau siopa.