Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael addysg Gymraeg.
Fel rhiant, dewis yr addysg orau i’ch plentyn fydd un o’r penderfyniadau pwysicaf fyddwch chi’n ei wneud. Mae nifer fawr o rieni yn dweud fod dewis addysg Gymraeg i’w plentyn wedi profi yn brofiad gwerth chweil i’r plentyn ac i’r teulu yn gyffredinol.
Parhau gydag addysg Gymraeg yw’r cam nesaf o’r Cylch Meithrin.
Mae symud o gylch meithrin i addysg Gymraeg yn gam naturiol a phwysig i’ch plentyn er mwyn iddo barhau gyda’i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Addysg Gymraeg – Sgiliau Dwyieithog.
Addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod eich plentyn yn ddwyieithog. Ni fydd eich plentyn yn colli'r gallu i fod yn rhugl
Yn ei iaith gyntaf, ond yn ennill y gallu i gyfathrebu yn llawn yn y ddwy iaith.