Os yw’r Cylch Meithrin yn elusen gofrestredig neu’n Sefydliad Corfforedig Elusennol, rhaid i’r pwyllgor rheoli gydymffurfio â rheoliadau’r Comisiwn Elusennau, sy’n cynnwys cadw gwybodaeth ymddiriedolwyr yn gyfoes a chyflwyno cyfrifon ac adroddiad ymddiriedolwyr blynyddol.

Mae’r Comisiwn Elusennau yn gyfrifol am:

  • gofrestru sefydliadau cymwys yng Nghymru a Lloegr sydd wedi’u sefydlu at ddibenion elusennol yn unig
  • gymryd camau gorfodi pan fo camymddwyn neu gamymddygiad
  • sicrhau bod elusennau yn cwrdd â’u gofynion cyfreithiol, gan gynnwys darparu gwybodaeth am eu gweithgareddau bob blwyddyn
  • sicrhau argaeledd gwybodaeth briodol am bob elusen gofrestredig
  • ddarparu gwasanaethau ac arweiniad ar-lein i helpu elusennau i redeg mor effeithiol â phosib

Cliciwch yma i fynd at wefan y Comisiwn Elusennau, neu chwiliwch yma am gyfrif eich Cylch Meithrin.