Bwriad Clwb 100 Mudiad Meithrin yw codi arian i un o elusennau pwysicaf Cymru sy’n creu siaradwyr Cymraeg ifanc. Bydd yr arian a godir o'r cynllun yn cael ei fuddsoddi i wasanaethu’r cylchoedd meithrin ar lawr gwlad.
Cost bod yn rhan o’r Clwb 100 ydy £2 y mis, a byddwn yn sicrhau y bydd tua hanner yr arian a gesglir yn cael ei rannu fel gwobrau i aelodau’r Clwb 100 bob mis.
O fis Medi 2017 mae'r gwobrau wedi cynyddu i
£100
£50
2 x £20
2 x £10
I ymuno lawrlwythwch a chwblhau’r daflen isod, a’i ddychwelyd at Nerys Fychan (ac nid i’r banc – byddwn ni’n gwneud hynny ar ôl derbyn eich manylion oddi ar y ffurflen hon). Gallwch ymuno gyda’r clwb unrhyw adeg o’r mis ond byddwn yn tynnu’r tocynnau buddugol ar ddydd Llun ola’r mis yn ein Prif Swyddfa yn Aberystwyth. Byddwn yn cysylltu gyda’r enillwyr ac yn cyhoeddi’r enillwyr ar ein gwefan.
Pam ymuno â Chlwb 100 Mudiad Meithrin?
- £210 o wobrau misol
- Llai na 50c yr wythnos i ymaelodi
- 72 cyfle i ennill gwobr mewn blwyddyn
- Cefnogi’r elusen sy’n creu nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru
Diolch i chi am gefnogi gwaith Mudiad Meithrin.