camau bach
Meithrinfa Ddydd
Mae'r ddarpariaeth wedi ei gofrestru gyda AGC ac hefyd wedi derbyn arolwg ESTYN.
Mae ein meithrinfa ddydd yn darparu gofal ac addysg rhagorol i fabis ifanc a phlant hyd at oed ysgol o dan ofal staff cymwys a phrofiadol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae hapusrwydd pob plentyn yn flaenoriaeth inni. Caiff pob plentyn gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fydd yn hybu pob agwedd o'i ddatblygiad mewn awyrgylch hapus a diogel.
Mae gan y feithrinfa amrywiaeth eang o deganau, llyfrau a deunyddiau crefft ac arlunio, cyfleusterau chwarae dwr a thywod ynghyd ag amrywiaeth o offer sy'n annog chwarae dychmygus ar mwyn annog bob plentyn i ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial.
Cylch Ti a Fi
Pwrpas ein cylch Ti a Fi yw rhoi cyfle i rieni neu warchodwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda'u plant a chymdeithasu dros baned neu ddisgled o de!
Mae'r cylch Ti a Fi yn cynnig gweithgareddau sy'n helpu datblygiad plant o enedigaeth hyd at oed ysgol. Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch gyfeillgar a Chymreig.
Wrth fynd i'r cylch Ti a Fi bydd eich plentyn yn cael cyfle i fwynhau chwarae gyda phob math o deganau a gwneud ffrindiau bach newydd; dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref’; gwrando ar storiau... a joio!