gwyddelwern
Cylch Meithrin
Mae'r ddarpariaeth wedi ei gofrestru gyda AGC.
Fel rhiant, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn ein cylch meithrin ni. Cymraeg yw iaith y cylch meithrin ond mae croeso i bob plentyn yn y cylch dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.
Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch neu am wybodaeth ynglyn â chofrestru eich plentyn mae croeso i chi gysylltu â ni ar 07799 127667 neu drwy e-bost (cyfeiriad isod). Os hoffech wybodaeth gyffredinol am gylchoedd yr ardal neu waith Mudiad Meithrin mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddog Cefnogi lleol: Nia Jones (nia.jones@meithrin.co.uk).