garth olwg
Meithrinfa Ddydd
Mae'r ddarpariaeth wedi ei gofrestru gyda AGC ac hefyd wedi derbyn arolwg ESTYN.
Mae ein meithrinfa ddydd yn darparu gofal ac addysg rhagorol i fabis ifanc a phlant hyd at oed ysgol o dan ofal staff cymwys a phrofiadol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae hapusrwydd pob plentyn yn flaenoriaeth inni. Caiff pob plentyn gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fydd yn hybu pob agwedd o'i ddatblygiad mewn awyrgylch hapus a diogel.
Mae gan y feithrinfa amrywiaeth eang o deganau, llyfrau a deunyddiau crefft ac arlunio, cyfleusterau chwarae dwr a thywod ynghyd ag amrywiaeth o offer sy'n annog chwarae dychmygus ar mwyn annog bob plentyn i ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial.
Amseroedd agor
Meithrinfa Ddydd
Swyddi Gwag
Lleoliad: Meithrinfa Garth Olwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd
Cyflog: NJC 6 - 11 £16,394 - £17,007 (yn ddibynnol ar gymhwyster) / Di-gymhwyster – Bydd y raddfa isafswm cyflog / cyflog byw yn cael ei dalu
Oriau: 40 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos gyda chyflog)
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â
Donna Joseph, rheolwr y feithrinfa ar
01443209120 / rheolwr@meithrinfagartholwg.co.uk
Gwneud Cais:
Mae Mudiad Meithrin yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma naill ai:
dros e-bost at: adnoddaudynol@meithrin.cymru
neu drwy eu danfon at: Y Tîm Adnoddau Dynol, Mudiad Meithrin, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1PD
Dyddiad Cau:08.03.2019 am 11:55yh