Eleni mae Mudiad Meithrin yn lansio cymdeithas cefnogwyr y Mudiad er mwyn rhoi cyfle i unigolion sy’n gefnogol o waith y Mudiad ein cefnogi, a chydnabod a diolch i wirfoddolwyr, staff presennol a chyn aelodau staff sydd wedi gweithio yn ddiwyd er budd Mudiad Meithrin.
Caiff yr unigolion canlynol yr hawl i fod yn rhan o'r Cefnogwyr
- I unrhyw un sydd wedi gwasanaethu ar bwyllgor cenedlaethol neu sirol
- I unrhyw aelod o staff sydd wedi bod ar gyflogres Mudiad Meithrin
- I unrhyw aelod o staff neu wirfoddolwr neu aelod pwyllgor cylch meithrin;
- I unrhyw berson y carai’r pwyllgor gwaith ei g/wahodd I fod yn aelod
- Llywydd/llywyddion anrhydeddus
Bydd holl aelodau’r gymdeithas yn derbyn copi o’r cylchlythyr tymhorol sy’n cynnwys Gwybodaeth am ein gwaith, byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r cyfarfod blynyddol, i seremoni wobrwyo Cam wrth Gam, i weld y Pasiant Meithrin yn y ddwy eisteddfod ac yn cael gwahoddiad i dderbyniad blynyddol. Nid oes tal aelodaeth i fod yn rhan o’r Cefnogwyr, y cyfan sydd yn rhaid i chi wneud yw anfon neges ebost atom ni.