Mae Mudiad Meithrin yn un o’r elusennau pwysicaf yng Nghymru sy’n sicrhau parhad a datblygiad yr Iaith Gymraeg ymysg ein plant ifainc. Gyda thros 20,000 o blant bach yn mynychu ein darpariaethau yn flynyddol ac yn mwynhau dysgu trwy chwarae yn Gymraeg, mae gwir obaith y bydd Cymru yn datblygu’n wlad ddwyieithog yn y dyfodol.
Trwy gefnogi Mudiad Meithrin byddwch yn gwneud gwahaniaeth i ddyfodol yr iaith Gymraeg yng Nghymru a thrwy gefnogi ein gwaith fe gewch gyfle unigryw i fod yn rhan o gymuned Mudiad Meithrin gefnogi achos teilwng iawn.
Ydych chi wedi gwneud adduned blwyddyn newydd eleni, beth am redeg ras, rhoi arian yn fisol, neu drefnu digwyddiad i godi arian i ni?
Gallwch gefnogi gwaith y Mudiad yn ariannol mewn drwy'r ffyrdd isod neu cysylltwch a Nerys Fychan, Swyddog Nawdd a Chodi Arian (01970 639639 neu nerys.fychan@meithrin.cymru) i drafod mwy: