Yn 2010-2012 bu’r Mudiad yn llwyddiannus mewn cais i dderbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i gynnal prosiect ‘Dathlu ein Treftadaeth’. Nod y prosiect oedd hyrwyddo hwiangerddi i’r plant sy’n mynd i’r cylchoedd meithrin a’r cylchoedd Ti a Fi ledled Cymru.
Fel rhan o’r cynllun, dysgwyd hwiangerddi i’r plant yn y cylchoedd meithrin gan sicrhau fod yr hwiangerddi yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Cynhaliwyd ‘Taith Dathlu ein Treftadaeth’ ledled Cymru gyda’r gantores Gwenda Owen yn cynnal sioe fach gerddorol a oedd yn cynnwys rhai o’r hwiangerddi yr oedd y plant wedi bod yn eu dysgu yn y cylchoedd meithrin.
Prynwyd offer recordio a chamerau digidol ar gyfer swyddogion datblygu’r Mudiad fel eu bod yn gallu cydweithio gyda chylch meithrin a gwirfoddolwyr o’r gymuned i recordio’r plant yn canu hwiangerdd o’u dewis. Recordiwyd y gwirfoddolwr yn siarad am eu profiadau a’u hatgofion o’u plentyndod a oedd yn gysylltiedig â hwiangerdd a ddewiswyd.
Creuwyd pod-ddarllediad o’r recordiadau uchod er mwyn eu gosod ar wefan y Mudiad fel bod modd trosglwyddo’r hanesion a’r hwiangerddi i bawb ledled y byd.
I gloi’r prosiect, casglwyd hanesion rhai o’r hwiangerddi a’u cyhoeddi mewn llyfryn a ddosbarthwyd i holl gylchoedd y mudiad ac mae modd i chi lawrlwytho copi o'r llyfryn isod.