Sefydlwyd Mudiad Ysgolion Meithrin yn ôl yn 1971 er mwyn
- Sefydlu Cylchoedd Meithrin
- Cefnogi a Hyrwyddo Addysg Gymraeg.
Erbyn 1981 roedd 350 o gylchoedd meithrin a 40 o gylchoedd Ti a Fi yn bodoli ar hyd a lled Cymru. Fe gefnogwyd y twf hwn gyda ystadegau cyfrifiad 1981, lle nodwyd fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr oedran 3-4 oed wedi cynyddu o 11.3% i 13.3%
Yn 2011 roedd y Mudiad yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed, ac fe benderfynwyd ei bod hi’n adeg addas i’r Mudiad gael logo newydd. Teimlwyd ers peth amser fod y Mudiad wedi tyfu o fod yn fudiad a ffurfiwyd yn wreiddiol er mwyn sefydlu ‘ysgolion' meithrin ledled Cymru, i un sydd bellach wedi datblygu’n fudiad o statws cenedlaethol ac sy’n cael ei gydnabod bellach fel ‘arbenigwyr y blynyddoedd cynnar’ yng Nghymru.
Yn sgil hyn penderfynwyd newid enw’r mudiad o Mudiad Ysgolion Meithrin i Mudiad Meithrin. Dyma hen logo Mudiad Ysgolion Meithrin a newidodd i'r un presennol yn ystod dathliadau 2011.