Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam yw’r unig ddarparwr hyfforddiant cenedlaethol sy’n cyflwyno cyrsiau Gofal Plant trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers 2006 mae 1068 o fyfyrwyr wedi cymhwyso mewn cyrsiau Gofal Plant mewn 30 Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg.
Rydym yn cydweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd er mwyn cynnig rhaglenni hyfforddi sy’n diwallu anghenion ysgolion a’r gymuned yn y ffordd fwyaf effeithiol. Gallwn gynnig cyrsiau amrywiol drwy gyfrwng y Gymraeg i ysgolion uwchradd ledled Cymru.

 

Llawlyfr Cynllun Ysgolion

Lawrlwytho

Portffolio Hyfforddiant Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol – Sut allwn ni weithio gyda chi i ddarparu cyrsiau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant drwy gyfrwng y Gymraeg

Lawrlwytho