Mae staff Mudiad Meithrin yn atebol trwy Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, i Fwrdd Cyfarwyddwyr sef aelodau gwirfoddol sy’n cynrychioli gwahanol daleithiau ac arbenigeddau gwaith y Mudiad. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am y Mudiad o safbwynt cyfreithiol ac ariannol, gan sicrhau ein bod yn gwybod beth rydym i fod i'w wneud, bod gennym ddigon o bobl ac arian i wneud hynny, a'n bod yn ei wneud yn dda. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod ddeg gwaith y flwyddyn gydag Is-Bwyllgor Cyllid a Staffio atodol. Mae gan aelodau’r Bwrdd ystod o sgiliau ac arbenigeddau yn ymwneud a gofal plant, addysg gynnar, y Gymraeg, llywodraethiant, cyllid, polisi, AD, y gyfraith ac ati.
Cadeirydd y Bwrdd yw Dr Rhodri Llwyd Morgan a’r aelodau eraill yw:
Corinna Lloyd-Jones
John Arthur Jones
Rhianwen Huws Roberts
Mai Roberts
Sion Tudur
Anita Evans
Alison Rees Edwards
Huw Ll Williams
Gari Lewis
Annette Evans
Nia Owen
Huw Marshall
Gwenno George
Elin Maher
Colin Nosworthy
Savanna Jones
Gellir cysylltu gyda Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin trwy e-bostio post@meithrin.cymru neu yrru llythyr i Mudiad Meithrin, Y Ganolfan Integredig, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, Ceredigion, SY231PD.