Ar ddydd Sadwrn, 24ain o Fai, bum yn brysur yn dathlu pen-blwydd Cylch Meithrin Pencarnisiog yn 40. Trefnwyd “Diwrnod o Hwyl” ar gyfer teuluoedd yr ardal ac roedd llawer o stondinau yn gwerthu cynnyrch lleol ac roedd nifer o weithgareddau megis swmba, sioe hud, gweithdy syrcas, cystadleuaeth gwisg ffansi ac arddangosfa gan Glwb Gymnasteg Bangor.
Daeth Sali Mali a Pepa Pinc i ddathlu efo ni ynghyd a sêr o’r byd teledu – rhai o griw Rownd a Rownd, a Betsan Brysur o’r rhaglen Cei Bach. I goroni’r cwbl daeth Edward Morus Jones i gynnal sesiwn o ganu’r hen ffefrynnau gyda'r plant. Dyma lun ohona i yn y dathliadau.