Pwy ydych chi a beth yw eich swydd?
Vanessa Powell ydwi, sef Prif Swyddog y Cyfnod Sylfaen yn Mudiad Meithrin ac rwy’n aelod o grŵp Llywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn datblygu cwricwlwm a fframwaith asesu newydd ar gyfer y sector nas-cynhelir (Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd).
Pa rôl mae Mudiad Meithrin yn ei chwarae wrth baratoi at y Cwricwlwm newydd?
Mae 5 aelod ar y grŵp datblygu uchod yn cynrychioli Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd, sef 4 Arweinydd a fi. Mae’r grŵp yma’n cynnwys arbenigwyr, Estyn, Athrawon Ymgynghorol, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill.
Beth am lais y Cylchoedd Meithrin?
Mae cyfraniad ein Arweinwyr yn bwysig iawn i sicrhau fod y cwricwlwm yn addas ac yn cwrdd ag anghenion ein ymarferwyr a’n plant. Mae ein Arweinwyr yn mynegi eu barn ac yn rhannu eu profiadau o weithio mewn darpariaethau cyfrwng Cymraeg. Maent yn sicrhau fod yr hyn sydd yn cael ei ddatblygu fel cwricwlwm a fframwaith asesu yn bwrpasol ar gyfer bob plentyn sydd yn dod at Gylch Meithrin neu Meithrinfa ble bynnag maent yn byw yng Nghymru. I weld pwy yw’r 4 sy’n rhan o’r grŵp ewch i waelod y dudalen.
Beth mae’r Cwricwlwm Newydd yn ei olygu i’r Cylchoedd Meithrin?
Mae’r cwricwlwm newydd yn seiliedig ar ddatblygiad plant ac felly yn faes mae ein darpariaethau yn gyfarwydd iawn ag e. Mae’r fframwaith yn cael ei ddatblygu er mwyn cefnogi y sector nas cynhelir i ddarparu’r weledigaeth ar gyfer ein dysgwyr ifancaf. Y nod ydy sicrhau fod pob un plentyn sydd yn mynychu Cylch Meithrin neu Meithrinfa yn cael y profiadau addysgol angenrheidiol er mwyn cael y dechrau gorau posib i’w continwwm dysgu a gwireddu’r pedwar diben.
Beth nesaf o ran amserlen y cwricwlwm newydd?
Fe fydd y fframwaith cwricwlwm ac asesu yn cael ei beilota yn ystod tymor yr haf (2021) mewn Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dros Gymru. Yn ogystal a’r peilota fe fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros tymor yr haf a fydd yn gyfle i ymarferwyr mynegi eu barn ar y cwricwlwm. Y nod yw i’r fframwaith gael ei gyhoeddi yn derfynol yn mis Rhagfyr 2021.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Yn ystod y cyfnod yma o baratoi a peilota fe fydd yna gefnogaeth ar gael i’r darpariaethau gan Swyddogion Cefnogi, gan ein hadran Cyfnod Sylfaen ac Arweinydd y Cwricwlwm i aelodau Cwlwm – Gwenith ap Robert .
Rydym eisoes yn cynllunio i ddarparu rhaglen o hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer ein haelodau er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.