Mae'n teimlo fel oes yn ôl fy mod i'n paratoi ar gyfer absenoldeb mamolaeth. Amser sydd yn teimlo’n bellach o'r realiti darodd dros nos ar 23 Mawrth 2020. Roeddwn i wedi dechrau fy absenoldeb mamolaeth prin wythnos cyn cyhoeddiad y cyfnod clo, a phan ddaeth y cyhoeddiad, roedd fel pwysau enfawr ar fy ysgwyddau. Am wythnosau, roedd y canllawiau ar gyfer menywod beichiog o'r Coleg Brenhinol Obstetregwyr a Gynaecolegwyr yn newid bron yn ddyddiol, a nawr, roedd rhwystr arall i'w ychwanegu at y broses. Ganwyd fy merch fach prin 3 wythnos i mewn i'r cyfnod clo cyntaf ac mae wedi byw ei bywyd cyfan o dan y cyfyngiadau COVID amrywiol.
Ni welodd y cynlluniau a wnaethom ymlaen llaw erioed golau dydd. Roedd fy merch fach yn 3 mis oed cyn cwrdd a’i Mam-gu. Ni chafodd cwtshes gydag unrhyw deulu estynedig eu hystyried hyd yn oed am fisoedd ar ôl hynny. Hyd yn oed wedyn, cadwyd nhw at yr isafswm posib.
Mae blwyddyn gyntaf y fechan wedi bod yn wahanol iawn i’r un yr oeddem yn ei ddisgwyl. Ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn waeth chwaith.
Doedd grwpiau babi wyneb yn wyneb ddim yn opsiwn. Ond, rydyn ni’n ‘Zoomed-out’ yn llwyr. O gyrsiau Babbling Babies, Tylino Babanod, Ffrangeg Babis, a Chwarae Blêr, roedd y misoedd cynnar yr un mor brysur, hyd yn oed heb adael ein hystafell fyw ein hunain. Ond, wrth iddi brifio, aeth y grwpiau ar-lein yn fwy heriol. Mae babis eisiau chwarae gyda'i gilydd, ac nid yw sgrin y cyfrifiadur mor gwtshlyd. Mae hi’n arbenigwr ar Zoom, Messenger a WhatsApp, wedi arfer â nhw fel yr unig ffordd o weld ffrindiau a theulu trwy gydol y cyfnodau clo. Mae hi'n dwli ar bobl – ‘mond eu bod nhw'n aros yn y cyfrifiadur a ddim yn dod yn rhy agos mewn bywyd go iawn.
Treulion ni'r haf a dechrau'r hydref y tu allan cymaint ag oedd yn bosib. Cwrddon ni â llond llaw o ffrindiau a theulu agos. Cafodd y gwyliau teulu cyntaf ei ganslo, ac heb eto’i ail-fwcio. Da ni ‘di cerdded (a rhedeg) milltiroedd. Treulio’r amser gyda'n gilydd fel uned teulu fach. Yn yr ystyr yma, mae wedi bod yn wych. Ac yn llai o stress na fy absenoldeb mamolaeth cyntaf 8 mlynedd yn ôl.
Ond, mae na anfanteision hefyd. Yn y dyddiau cynnar, roedd bod yn styc adref gyda babi bach, a dim ymwelwyr, yn anodd. Yn unig. Mae cwrdd â rhieni eraill wedi bod bron yn amhosibl, a dim ond heb y rhwydwaith yna da chi’n sylweddoli pa mor bwysig yw e! Mae'r grwpiau ar-lein wedi helpu llenwi rhai o’r bylchau, ond heb gymryd lle’r paned bore, mewn ystafell llawn rhieni eraill, lle mae'r sgwrs yn gwneud i chi sylweddoli nad chi yw'r unig un sy' isie diod poeth go iawn a mwy o gwsg.
‘Smo’r fechan yn gwybod dim gwahanol. Yn 10 mis oed nid yw hi erioed wedi chwarae gyda babi arall. Ei hoff ran o’r wythnos yw pan ddaw ei chwaer adref o dŷ Dad, er mwyn cael rhywun i chwarae gyda hi eto. Ond rywsut, mae angen i ni ei pharatoi ar gyfer y diwrnod pan fydd pobl yn ei hamgylchynu. Ei theulu, yn y feithrinfa ac yna yn yr ysgol.
Hi fydd fy Mabi Pandemig hyd ddiwedd ei hoes ac amser a ddengys pa effaith geith y flwyddyn anarferol hon arni hi a’i chriw.