Dyma rai o sylwadau gan rieni plant sydd wedi mynychu'r feithrinfa:
‘Amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo hyder, ymddygiad dda a datblygiad addysgol.’
‘Rydym fel teulu yn ddiolchgar iawn I staff Medra am eu gofal o’n mab. Mae wedi cael llawer o hwyl a profiadau gennych yno. Mae’r staff bob amser yn barod I helpu.’
‘Teimlad o deulu yn y feithrinfa sy’n gysur mawr i mi fel rhiant.’
‘Mae fy mhlentyn yn brysur yn y feithrinfa bob dydd. Rwy’n hoff o’r themau sy’n cael eu cyffwrdd a’r gweithgareddau sy’n cael eu clymu fewn.’
‘Bob tro yn cyfarch fy mhlentyn wrth gyrraedd y dderbynfa ac wrth ddrws yr ystafell. Ymateb hwyliog a bywiog gan y staff sydd bob tro yna i dderbyn fy mhlentyn. ‘Bore da’ I’w glywed gan bawb.’
‘Digon o amser drw’r flwyddyn i drafod datblygiad fy mhlentyn. Rheolwraig digon parod i fod o gymorth mewn unrhyw ffordd.’