Mae ein sesiynau ioga babi yn gyfle i fwynhau amser un i un gyda’ch babi gan ddilyn ymlaen o’r sesiynau tylino babi mewn awyrgylch gartrefol a diogel.

Mae ein sesiynau ioga babi yn gyfle i ti fwynhau amser un i un gyda dy fabi gan ddilyn ymlaen o’r sesiynau tylino babi mewn awyrgylch gartrefol a diogel.

Rydym yn croesawu pawb i’n grwpiau cyfeillgar sy’n ffordd wych i godi hyder, i ddefnyddio dy Gymraeg neu i gymdeithasu gyda rhieni newydd yn dy ardal.

Mae ioga babi yn gyfle i gryfhau a datblygu cyhyrau’r babi drwy symudiadau syml ac o gymorth i ymlacio’r babi a’r rhiant a mwynhau caneuon Cymraeg syml.

Rydym yn cynnal y grwpiau canlynol:

  • Grwp ioga babi cychwynnol o 10+ wythnos  – cyfle i ddysgu nifer o symudiadau ymlacio a fydd o fantais i ti a dy fabi
  • Grwp ioga babi pellach o 24+ wythnos– cyfle i ehangu ar y symudiadau a ddysgwyd yn y grŵp cychwynnol.

Grwpiau tymor ysgol yn unig yw’r rhain, ac maen nhw i gyd am ddim.

I gofrestru ar grŵp clicia yma