Rhaid i unrhyw ddarpariaeth gofal plant sy'n rhedeg dros 2 awr gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.

Mae AGC yn cofrestru, arolygu a chymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau yng Nghymru.

Mae AGC yn arolygu gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru gyda nhw i wirio eu bod yn darparu gofal diogel.

Naill ai Person Cofrestredig y Cylch Meithrin neu’r Unigolyn Cyfrifol sy’n atebol i AGC a bydd angen i’r pwyllgor gydweithio i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol AGC, sy’n cynnwys y canlynol:

  • Darparu gwybodaeth cyhoeddus am y gwasanaeth (Datganiad o Ddiben)
  • Rhoi grym i ddefnyddwyr y gwasanaeth
  • Sicrhau ansawdd y gofal
  • Cynnal a rheoli’r gwasanaeth
  • Delio a chwynion
  • Dilyn gweithdrefnau Amddiffyn Plant
  • Hysbysu AGC o unrhyw ddigwyddiadau / newidiadau https://online.careinspectorate.wales/#/login
  • Gofalu am yr amgylchedd ffisegol (Iechyd a Diogelwch)