Does dim angen gallu siarad Cymraeg er mwyn gallu cefnogi’r iaith
• Rydym yn gwybod bod llawer o fusnesau yn ystyried sut gall eu cwmni wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas.
• Mae bod yn Aelod Gorfforaethol o Mudiad Meithrin yn ffordd wych i’ch cwmni neu sefydliad ddangos i’ch staff, cyflenwyr a’ch cwsmeriaid bod gennych chi ymrwymiad
gwirioneddol i gefnogi’r Gymraeg a’ch bod yn cymryd dyfodol yr iaith o ddifrif.
• Mae dangos eich bod yn cefnogi’r Gymraeg fel rhan o’ch busnes yn gallu dod â mwy o gwsmeriaid drwy’r drws, yn adlewyrchu gwasanaeth lleol sy’n dangos parch at y
gymuned ac yn ffordd o ennyn ffyddlondeb cwsmeriaid.
• Drwy’r bartneriaeth hon gall eich busnes gyfrannu tuag at siapio dyfodol cadarnhaol y Gymru fodern. Bydd eich cefnogaeth yn cyfrannu at ein gwaith o ddarparu
cefnogaeth i ddarparwyr gofal plant a chynnig cyfleoedd arbennig i blant bach drwy ein rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a mentrau.
Mae'r daflen isod yn cynnwys yr holl fuddion all fod i'ch cwmni/sefydliad drwy fod yn Aelod Corfforaethol. I ddod yn aelod, lawrlwythwch y ffurflen aelodaeth isod a'i gyrru atom.