Y Pwyllgor
Y pwyllgor rheoli fydd yn gyfrifol am weithredu fel cyflogwr gan gynnwys penodi, cyflogi, cefnogi a rheoli staff. Mae’r rheoliadau ar gyfer cyflogi staff yn gymhleth, dylid trafod gyda’ch Swyddog Cefnogi lleol cyn dechrau ar y broses.
Mudiad Meithrin
Mae canllawiau adnoddau dynol yn Llyfr Bach Piws Mudiad Meithrin, ar waelod y dudalen.
Mae mewnrwyd Mudiad Meithrin yn cynnwys gwybodaeth ar faterion angenrheidiol, er enghraifft: Penodi, Anwytho, Cyfnod Prawf, Disgyblu, Achwyniadau, Absenoldeb, Mamolaeth, Hawliau Gwyliau, Mamolaeth/Tadolaeth. Mae gan aelodau Mudiad Meithrin fynediad at linell gymorth sy'n cynghori ar faterion cyfreithiol.
Nid yw'r Mudiad yn darparu cyngor adnoddau dynol i aelodau staff unigol.
Nid yw'r Mudiad yn darparu cyngor i bwyllgorau sydd yn gweithredu'n groes i'r cyngor a roddir yn y Llyfr Mawr Piws / Canllawiau Rheoli neu wedi gweithredu yn groes i unrhyw reoliadau cyfreithiol.
Gofynion Asiantaeth Gofal Cymru (AGC) :
1. Cymarebau:
Mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn pennu niferoedd y staff sydd rhaid i gylch ei gael ar gyfer nifer penodol o blant, sef:
- 1 oedolyn i bob 3 plentyn dan 2 oed
- 1 oedolyn i bob 4 plentyn 2 – 3 oed
- 1 oedolyn i bob 8 plentyn 3 – 7 oed
Mewn sefyllfa Gofal Dydd Llawn lle mae’r cylch wedi’i gofrestru ar gyfer 20+ o blant mae’n rhaid cyflogi un person ychwanegol i’r cymarebau uchod (supernumary).
2. Cymwysterau
- Mae’n rhaid i arweinydd y Cylch feddu ar gymhwyster ar o leiaf Lefel 3, sydd wedi’i gydnabod gan Cyngor Gofal Cymru fel bod yn addas i’r swydd. Rhaid sicrhau fod gan unrhyw Arweinydd a benodir o leiaf 2 flynedd o brofiad.
- Dylai o leiaf hanner y cynorthwywyr fod â chymhwyster ar Lefel 2 sydd wedi’i gydnabod gan Cyngor Gofal Cymru fel bod yn addas i’r swydd. Cliciwch yma i weld rhestr o'r cymwysterau derbyniol.
- Mae rheolau gwahanol ar gyfer lleoliadau Dechrau’n Deg a gofal dydd llawn, mae angen trafod hyn gyda’r Swyddog Cefnogi lleol cyn penodi.
- Mae’n rhaid sicrhau fod o leiaf 2 aelod o staff yn y cylch bob amser.
3. Gwasanaeth datgelu a Gwahardd (GDG)
- Rhaid i bob cylch gofrestru gyda chwmni allanol (e.e. uCheck) ar gyfer gwneud gwiriadau GDG.
- Cyn gall unrhyw berson ddechrau gweithio mewn cylch rhaid cael y gwiriad.
- Cyfrifoldeb y pwyllgor rheoli yw gwneud hyn ar gyfer cynorthwywyr yn y cylch, a bydd cost. Pwyllgor rheoli’r cylch sydd i benderfynu os mai’r cylch neu unigolyn sy’n talu am y gwiriad.
- Mae angen i’r pwyllgor rheoli gofrestru a mewngofnodi ar lein efo'r cwmni gwirio DBS er mwyn gwneud y gwiriad.
- Dylai’r pwyllgor argymell fod yr aelod staff yn gwneud y gwiriad yn drosglwyddadwy, rhaid gwneud hyn o fewn 14 diwrnod i dderbyn y dystysgrif.
- Os oes gan yr unigolyn GDG cludadwy rhaid gwirio’r tystysgrif hwnnw yn yr un modd.
- Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth GDG
Gwybodaeth ychwanegol:
Gallwch weld rhestr o'r cymwysterau derbyniol yma
Yn ogystal â mewnrwyd Mudiad Meithrin a chefnogaeth eich Swyddog Datblygu lleol, mae cymorth ychwanegol ar gael ar faterion staffio ac adnoddau dynol gan ACAS, a chysylltiadau defnyddiol eraill yw:
Cyfrifiannell tâl colli gwaith
Busnes Cymru: Gwybodaeth, cyngor a chymorth gan Llywodraeth Cynulliad Cymru
Advice Guide: Help ar-lein gan Cyngor ar bopeth
Cyllid a Thollau: Cymorth a Gwybodaeth Cyflogaeth Cyffredinol
Cymru Iach ar Waith: Cymorth ym maes iechyd i wella iechyd yn y gwaith, atal afiechyd a chynorthwyo pobl i ddychwelyd i'r gwaith ar ol afiechyd.