Ydych chi'n gweithio mewn cylch meithrin ac eisiau dysgu mwy ynglyn â'r Cyfnod Sylfaen?
Ydych chi'n gadeirydd cylch meithrin ac angen dysgu mwy ynglyn â'r drefn arfarnu staff?
Ydych chi'n chwilio am gwrs yn eich ardal?
Heb os, academi yw'r lle i chi!
Nod academi yw darparu ystod eang o gyfleoedd datblygu a hyfforddi i’r holl staff a gwirfoddolwyr sy'n rhan o gymuned Mudiad Meithrin.
Bydd y cyfleoedd dysgu sy'n cael eu cynnig o dan faner academi yn cwmpasu pob agwedd o waith y Mudiad - o faterion ieithyddol, addysgol a gofal i faterion gweinyddol a rheoli.
Bydd yr hyfforddiant hwn hefyd yn cael ei ddarparu mewn ffyrdd amrywiol, gan gyfuno cyrsiau traddodiadol wyneb yn wyneb â chyrsiau modern ar-lein, lle gall yr unigolyn ddysgu ar adeg sy'n gyfleus iddo ef/hi.
?