Agorwyd Canolfan Integredig Aberystwyth yn swyddogol ar 1 Medi 2005, gan Jane Davidson, A.C. Gweinidog Dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. Hon oedd y Ganolfan Integredig gyntaf yng Nghymru i gael ei hadeiladu a’i hagor gan fudiad gwirfoddol.
Mae Canolfan Integredig Aberystwyth yn cartrefu:
- Prif Swyddfa Mudiad Meithrin
- Meithrinfa ddydd Camau Bach
- Cylch Meithrin Aberystwyth
- Cylch Ti a Fi Aberystwyth
- Clwb Allysgol
- Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam
- Llyfrgell Adnoddau
- Siop Dewin a Doti
- Canolfan Gynadledda a Hyfforddiant
Prif Swyddfa Mudiad Meithrin
Mae'r rhan fwyaf o staff cenedlaethol y Mudiad wedi eu lleoli yn y Brif Swyddfa yn Aberystwyth. Mae swyddfeydd taleithiol/rhanbarthol eraill ar gael ar draws Cymru yng Nghaerdydd, Wrecsam, Llanelli, a Llangefni
Llyfrgell Adnoddau
Mae llyfrgell ar gael sy’n llawn o adnoddau blynyddoedd cynnar. Gall arweinyddion, ymgeiswyr Cwmni Cam wrth Gam ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar ddefnyddio'r llyfrgell trwy drefnu â'r Brif Swyddfa. Noddwyd yr ystafell hon gan HSBC.
Canolfan Gynadledda a Hyfforddiant
Mae hon yn ganolfan ddelfrydol i gynnal cynadleddau, hyfforddiant neu bwyllgorau mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a thrwyadl Gymreig. Gall ddarparu ar gyfer pwyllgorau bychain neu gynadleddau mwy.
Ystafell Ystwyth
Dyma’r ystafell gynadledda. Mae’n ystafell amlbwrpas. Mae'n bosib ei gosod allan mewn amrywiol ffyrdd er mwyn sicrhau y bydd delwedd broffesiynol i’ch digwyddiad.
Theatr gynadledda fodern i hyd at 50 neu gyfarfod bwrdd i hyd at 32 o bobl.
Cyfleusterau:
- System awyru
- Taflunydd
- Bwrdd wen
- Gliniadur
- Mynediad i’r rhyngrwyd
- Siart fflip
- Darllenfa
- Ardal ar gyfer arddangosfeydd
- Offer cyfieithu ar y pryd ar gael i’w llogi
- Safle hygyrch
Gellir trefnu lluniaeth
I logi ystafell cyfarfod, ffoniwch 01970 639639, neu e-bostiwch ystafelloedd@meithrin.co.uk
Cyllidwyd y ganolfan hon trwy gefnogaeth y canlynol:
Rhaglen Amcan 1 Ewrop, Adran Cymorth i Ddisgyblion Llywodraeth Cynulliad Cymru
Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, HSBC.