Rydym ni’n angerddol ynglŷn â rhoi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg.

Credwn fod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu Cymraeg ac rydym yn creu amgylchedd lle gall siaradwyr Cymraeg newydd ffynnu.

Gyda thros 20,000 o blant bach a’u teuluoedd yn cael hwyl wrth chwarae yn Gymraeg yn ein amrywiol grwpiau a Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dydd, mae gwir obaith y bydd Cymru yn datblygu’n wlad ddwyieithog yn y dyfodol.

Trwy ein cefnogi byddwch yn gwneud gwahaniaeth i ddyfodol yr iaith Gymraeg yng Nghymru ac fe gewch gyfle unigryw i fod yn rhan o’r teulu tra’n cefnogi achos teilwng iawn.

Isod mae’r gwahanol ffyrdd y gallwch gefnogi ein gwaith.