Mae’n rhaid i bob Cylch Meithrin gael Pwyllgor Rheoli, sef grŵp o bobl sy'n rheoli’r Cylch Meithrin.

Mae aelodau’r Pwyllgor Rheoli hefyd yn ymddiriedolwyr elusen y Cylch. Defnyddir Pwyllgor Rheoli fel term i ddisgrifio corff llywodraethu’r Cylch Meithrin sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros y cylch. (Ni all pawb fod yn ymddiriedolwr elusen. Darllenwch ganllawiau’r Comisiwn Elusennau i weld meini prawf cymhwyster ar gyfer ymddiriedolwyr).

 

 

Mae elfennau cyfreithiol rhedeg Cylch Meithrin yn cynnwys cydymffurfio â:

  • Safonau Gofynol Cenedlaethol AGC
  • Cyfraith Cyflogaeth
  • Rheoliadau’r Comisiwn Elusennau

Yn ddibynnol ar strwythur cyfreithiol y pwyllgor, bydd gan bob Cylch Meithrin naill ai Person Cofrestredig neu Unigolyn Cyfrifol gyda AGC, yn ogystal a Chadeirydd, Trysorydd ac Ysgrifennydd. Os yw’n bosibl, mae’n arfer da hefyd i gael is-bwyllgor gydag is-swyddogion i rannu’r gwaith.

Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol a rôlau aelodau’r pwyllgor.